Cwestiynau cyffredin
Read these FAQs in English
Mae rhai o’r cwestiynau cyffredin yn cael eu hateb yma. Os nad
ydych yn gallu gweld yr ateb i’ch cwestiwn chi, cysylltwch â ni a
gwnawn ein gorau glas i’ch helpu.
Llenwch y ffurflen adborth, neu, os
ydych chi’n aelod o NCMA, gallwch ofyn am
alwad yn ôl gan ein tîm aelodaeth.
Neidiwch i’r adran cwestiynau cyffredin:
Gwarchodwyr Plant
C. A oes yn rhaid imi gofrestru i fod yn warchodwr
plant?
A. Os ydych chi’n bwriadu
gofalu am blant o dan 8 oed yn eich cartref eich hun ac os nad yw’r
plant yn berthnasau gwaed i chi, mae gofyn yn gyfreithiol ichi gael
eich cofrestru a’ch arolygu gan Ofsted yn Lloegr, ac Arolygiaeth
Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yng Nghymru (gall
siaradwyr Cymraeg fynd i http://www.aggcc.org.uk/).
C. A yw’n ddrud sefydlu eich hun fel gwarchodwr plant
cofrestredig?
A. Fel gwarchodwr
plant sydd newydd gofrestru yng Nghymru neu Loegr, byddwch chi’n
gallu gwneud cais am grant i helpu i dalu costau sefydlu eich
busnes gwarchod plant.
C. Faint o blant y gallaf ofalu amdanynt yn fy
safle?
A. Yn Lloegr, bydd Ofsted yn gosod nifer y plant y gallwch ofalu
amdanynt. Y mwyafswm yw chwech o blant o dan 8 mlwydd oed, ac fel
arfer ni chaiff fwy na thri ohonynt fod o dan 5 oed, ac o’r plant
hyn, fel arfer ni chaiff fwy nag un plentyn fod o dan flwydd (er
gallai Ofsted ganiatáu eithriad, er enghraifft, i frodyr a
chwiorydd). Bydd y niferoedd hyn yn cynnwys eich plant eich hun os
oes gennych blant.
Yng Nghymru, bydd AGGCC yn gosod nifer y plant y gallwch ofalu
amdanynt. Y mwyafswm yw chwech o blant o dan 8 mlwydd oed, ac fel
arfer ni chaiff fwy na thri ohonynt fod o dan 5 oed, ac o’r plant
hyn, fel arfer ni chaiff fwy na dau o blant fod o dan 18 mis oed
(er gallai AGGCC ganiatáu eithriad, er enghraifft, i frodyr a
chwiorydd). Bydd y niferoedd hyn yn cynnwys eich plant eich hun os
oes gennych blant.
C. A oes yn rhaid imi fyw mewn tŷ mawr i fod yn
warchodwr plant?
A. Nid oes angen ichi fod â thŷ mawr a gardd i fod yn warchodwr
plant. Nid oes angen ichi fod yn berchen ar eich cartref eich hun
hyd yn oed. Yn syml, mae’n rhaid i’r cartref lle byddwch yn
gwarchod plant fod yn addas ac yn ddiogel ar gyfer darparu gofal
plant, sef rhywbeth a gaiff ei archwilio yn rhan o’r broses
gofrestru.
C. Faint y byddaf yn ei ennill fel gwarchodwr plant
cofrestredig?
A. Mae’r rhan fwyaf o warchodwyr plant yn rhedeg eu busnes eu
hunain felly chi fydd yn gyfrifol am osod eich ffioedd eich hun.
Byddwch yn codi ffi fesul awr, diwrnod neu wythnos am bob lle
gwarchod plant a ddefnyddir, felly mae’r swm a enillwch yn dibynnu
ar nifer y plant y gofalwch amdanynt a nifer yr oriau a weithiwch.
I ddechrau, mae’n syniad da edrych ar yr hyn mae gwarchodwyr plant
eraill yn ei godi yn eich ardal. Mae gwybodaeth am y ffioedd a godir gan aelodau NCMA yma.
Yn ôl i’r brig
Gwarchodwyr plant dros 7
oed
C. A oes yn rhaid imi gofrestru?
A. Yn wahanol i warchodwyr plant cofrestredig (sydd fel arfer yn
hunangyflogedig ac yn gweithio yn eu cartrefi eu hunain), nid oes
yn rhaid i’r rheini sy’n gwarchod plant dros 7 oed gael eu
cofrestru na’u harolygu ar hyn o
bryd.
Fodd bynnag, gallwch ddewis, yn Lloegr, ymuno â Chofrestr Gofal
Plant Ofsted neu, yng Nghymru, Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant
Cymru. Bydd hyn yn dangos i rieni eich bod wedi ymrwymo i ofalu am
blant mewn safle cartref i’r safonau uchaf posibl. Gallai hefyd
helpu rhieni i elwa’n
ariannol.
C. A ddylwn ymaelodi ag NCMA?
A. NCMA yw Cymdeithas Gwarchod Plant Genedlaethol Cymru a
Lloegr. Dyma’r gymdeithas flaenllaw sy’n rhoi cymorth i warchodwyr
plant cofrestredig a gofalwyr plant yn y cartref yng Nghymru a
Lloegr.
Os hoffech ddod yn aelod o NCMA ar gyfer plant dros 7 oed,
ffoniwch 0845 880 0044 neu e-bostiwch info@ncma.org.uk.
Yn ôl i’r brig
Nanis
C. A oes yn rhaid imi gofrestru i weithio fel
nani?
A. Yn wahanol i warchodwyr plant cofrestredig (sy’n tueddu i fod
yn hunangyflogedig a gweithio yn eu cartrefi eu hunain), nid oes yn
rhaid i nanis gael eu cofrestru na’u harolygu ar hyn o
bryd.
Fodd bynnag, gallwch ddewis, yn Lloegr, ymuno â Chofrestr
Gofal Plant Ofsted (dolen allanol) neu, yng Nghymru,
Cynllun
Cymeradwyo Gofal Plant Cymru (dolen allanol). Bydd hyn yn
dangos i rieni eich bod wedi ymrwymo i ofalu am blant mewn safle
cartref i’r safonau uchaf posibl. Gallai hefyd helpu rhieni i gael
buddion ariannol fel gostyngiad yn y dreth neu dalebau gofal
plant.
C. A ddylwn ymaelodi ag NCMA?
A. Gall nanis ymuno ag NCMA am amrywiaeth o fuddion a chymorth
proffesiynol. Hefyd, mae aelodaeth yn dangos i rieni fod eu nani
wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth proffesiynol o ansawdd. Cewch
wybod mwy am aelodaeth Nani NCMA yma. Os
hoffech ddod yn Nani NCMA ffoniwch 0845 880 0044 neu e-bostiwch
info@ncma.org.uk.
C. A fydd disgwyl imi wneud gwaith tŷ i aelodau eraill
o’r
teulu?
A. Nid oes disgwyl fel arfer i nani wneud unrhyw waith tŷ i
aelodau eraill o’r aelwyd. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddiffiniad
cyfreithiol o rolau a chyfrifoldebau nani, ac mae tasgau nani’n
gallu amrywio gan ddibynnu ar y teulu. Mae’n hanfodol diffinio eich
rôl a’ch cyfrifoldebau’n glir cyn ichi ddechrau gwaith. Mae mwy o
wybodaeth am
gontractau nani yma.
Yn ôl i’r brig
Cynllun Archwilio Cefndir a Gwahardd (VBS)
C – Rwy’n ystyried dod yn warchodwr plant cofrestredig -
a oes angen imi gofrestru â chynllun newydd?
A – O fis Gorffennaf 2010 mae’n rhaid i bob gwarchodwr plant
newydd a phobl sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion agored i
niwed gael eu cofrestru ar y cynllun newydd. Os nad ydych wedi cael
gwiriad y CRB erioed, y ffi yw £64. Os ydych wedi cael gwiriad y
CRB o’r blaen, dim ond y ffi ychwanegol o £28 y bydd angen ichi ei
thalu.
C – Rwy’n cyflogi cynorthwyydd neu mae arnaf eisiau
cyflogi cynorthwyydd, a oes yn rhaid imi dalu am ei wiriad VBS yn
awr?
A – Nac oes, yr unig beth rydych chi’n gyfrifol amdano yw
sicrhau bod ganddo wiriad CRB dilys neu o fis Gorffennaf 2010 ei
fod ar y Cynllun Archwilio Cefndir a Gwahardd (VBS). Cyfrifoldeb y
sawl sy’n dymuno gweithio gyda phlant yw cael ei wiriad ei hun. Os
bydd gwarchodwr plant yn cyflogi cynorthwyydd a bod arno eisiau
talu am wneud y gwiriad cyn i’r cynorthwyydd ddechrau gweithio
gyda’r plant, gall wneud hynny ond nid oes gofyn yn gyfreithiol
iddo wneud. O 12 Hydref 2009, bydd yn drosedd i unrhyw un a
waharddwyd rhag gweithio gyda phlant geisio cyflogaeth yn gwneud
hyn. Mae hefyd yn drosedd i gyflogwyr beidio â gwirio ei statws,
felly mae’n holl bwysig eich bod yn ailwirio unrhyw gynorthwywyr a
gyflogwch i sicrhau bod system y CRB wedi’u derbyn i weithio gyda
phlant.
C – Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i bob aelod o’m teulu
gael gwiriad y CRB, a fydd yn rhaid imi dalu iddynt gael eu gwirio
o dan y cynllun newydd?
A – Os yw unrhyw aelodau o’ch teulu’n treulio mwy na 28 diwrnod
yn olynol yn gofalu am blant, mae’n rhaid eu cofrestru o dan y
cynllun newydd. Fodd bynnag, os nad ydynt yn gwneud hynny ac yn
rhoi help llaw yn wirfoddol ambell waith, fel mynd â phlant i’r
ysgol neu eu gwylio am bum munud tra byddwch allan o’r ystafell,
dim ond eu cofrestru fel gwirfoddolwyr mae angen ei wneud. Nid oes
angen ichi dalu am wirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phlant yn
unswydd ond mae’n rhaid eu cofrestru.
C – A allaf nodi’r ffi ar gyfer y gwiriad VBS fel traul
busnes?
A – Gallwch, mae hon yn ffi
ddi-dreth.
C – A fydd fy ffi gofrestru Ofsted yn cynnwys fy nghais
VBS?
A - Os oes gennych wiriad y CRB ar hyn o bryd a bod angen ichi
adnewyddu eich ffi gofrestru i Ofsted ni fydd angen ichi dalu
unrhyw arian pellach. Os ydych yn warchodwr plant sydd newydd
gofrestru, bydd eich ffi gofrestru Ofsted yn parhau i gynnwys eich
gwiriad CRB. Mae Ofsted wedi dweud nad yw wedi cael gwybod o gwbl a
fydd yn rhaid i bob cofrestriad gofal plant newydd dalu am ei
wiriad VBS ar wahân o fis Gorffennaf 2010. Ar hyn o bryd, mae
gwiriad y CRB yn cael ei gynnwys yn y ffi gofrestru ac yn cael ei
gymorthdalu gan yr Adran Plant, Ysgolion a
Theuluoedd.
Yn ôl i’r brig
Mwy o gymorth i aelodau
Peidiwch ag anghofio bod mwy o gymorth a gwybodaeth ar gael i
aelodau gan NCMA ar 0845 880 0044.
Yn ôl i’r brig