Homepage of NCMA
Arolygu yng Nghymru
Read this
page in English
Mae gwarchodwyr plant yng Nghymru’n cael eu cofrestru a’u
harolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
(AGGCC).
Mae gwarchodwyr plant yng Nghymru’n cael eu harolygu unwaith yn
ystod eu blwyddyn gyntaf o gofrestru ac unwaith bob dwy flynedd
wedyn (oni bai bod angen ymweliad cynharach). Mae’r arolygiad yn
seiliedig ar brofiad plentyn yn safle’r gwarchodwr plant.
Bob tri mis, mae AGGCC yn anfon pecynnau cyn-arolygu at ryw 25 y
cant o’r gwarchodwyr plant sy’n gofrestredig yng Nghymru. Mae’r
pecyn hwn yn cynnwys ffurflen hunanasesu i’r gwarchodwr plant a
holiaduron gydag amlenni parod i’r rhieni. Mae’r llythyr eglurhaol
yn y pecyn yn egluro bod gofyn i’r gwarchodwr plant lenwi a
dychwelyd y ffurflen hunanasesu ymhen 14 diwrnod, ynghyd â chopi
o’i adroddiad Adolygiad o Ansawdd Gofal diweddaraf. Dylai’r
gwarchodwr plant ddisgwyl ymweliad arolygu heb ei gyhoeddi ymlaen
llaw wedyn ymhen tri mis.
Wrth gynllunio’r ymweliad arolygu, bydd yr arolygydd yn ystyried
yr wybodaeth ar y ffurflen hunanwerthuso am wibdeithiau rheolaidd a
phryd mae’r plant yn debygol o fod yn y safle.
Mae’r arolygydd yn defnyddio’r wybodaeth o’r ffurflen
hunanwerthuso a’r holiaduron rhiant/gofalwr i gynllunio ffocws ei
arolygiad. Drwy gynllunio’r arolygiad fel hyn, gall yr arolygydd
dreulio mwy o’i amser yn rhyngweithio â’r plant yn y safle ac yn
cymryd rhan mewn ambell weithgaredd. Mae llenwi’r ffurflen
hunanwerthuso ymlaen llaw yn golygu nad oes angen treulio cymaint o
amser yn llenwi ac yn gwirio gwaith papur yn ystod yr ymweliad
arolygu.
Y plant a’u rhieni yw’r prif rai sy’n defnyddio gwasanaeth y
gwarchodwr plant, ac felly bydd ar yr arolygydd eisiau treulio
amser gyda’r plant yn ystod yr ymweliad, a chlywed barn y rhieni
hefyd. Efallai bydd yr arolygydd yn arwain gweithgaredd gyda’r
plant i ganfod beth maent yn wir yn ei hoffi am fod gyda’u
gwarchodwr plant – gallai ddefnyddio lluniau neu ddoliau persona i
gael syniad da o brofiad y plentyn o’r safle.
Ar ddiwedd yr ymweliad arolygu, bydd yr arolygydd yn rhoi
adroddiad ar lafar i’r gwarchodwr plant. Bydd unrhyw ofynion brys
yn cael eu cofnodi ar bapur a’u gadael gyda’r gwarchodwr plant i
weithredu yn eu cylch. Bydd yr arolygydd yn anfon ei adroddiad
ysgrifenedig at y gwarchodwr plant ymhen 28 diwrnod. Mae gan y
gwarchodwr plant 14 diwrnod wedyn i wirio’r adroddiad, a bydd yn
cael ei ddiwygio os bydd yr arolygydd yn cytuno bod gwallau
ffeithiol. Bydd yr adroddiad yn canolbwyntio ar gryfderau’r safle,
meysydd arfer da ac unrhyw feysydd i’w gwella. Bydd yr adroddiad
hefyd ar gael i’r rhieni.
Yn wahanol i Loegr, nid oes system graddio o gwbl yng Nghymru ar
gyfer arolygiadau gwarchodwr plant.