Gwarchodwyr plant
Read this page in English
Ydych chi erioed wedi ystyried bod yn warchodwr
plant?
Mae dod yn warchodwr plant cofrestredig yn
rhoi cyfle i chi gael gyrfa lawn boddhad a chyfrifoldeb ynghyd â
holl fanteision gweithio gartref. Ac mae degau o filoedd o bobl
eisoes yn rhedeg eu busnesau gwarchod plant eu hunain ledled Cymru
a Lloegr.
Mae gwarchodwyr plant yn gweithio yn eu
cartrefi eu hunain yn gofalu am blant pobl eraill gan gynnig digon
o gyfleoedd dysgu iddynt. Yn aml maent yn gofalu am blant, o adeg
eu geni ymlaen ac maent yn dod yn rhan uchel eu parch a phwysig o
fywydau teuluoedd, gan gynnal perthynas broffesiynol â’r rhieni yn
ogystal â bod yn aml yn gyfaill agos i’r teulu. Gwarchod plant yw’r
dull mwyaf poblogaidd o ofal plant cofrestredig yng Nghymru a
Lloegr. Dyma’r math gorau o ofal plant yn ôl barn rhieni.
Gallwch lawrlwytho’r taflenni Sut i fod yn warchodwr
plant cofrestredig yng Nghymru (Cymraeg PDF – PDF,
161KB) yma.