Bod yn warchodwr plant

Read this page in English
Ydych chi’n ystyried dod yn warchodwr plant
cofrestredig?
Mae llawer o resymau dros ystyried dod yn
warchodwr plant cofrestredig. Os hoffech gael gyrfa lawn boddhad,
os hoffech fod yn feistr arnoch chi eich hun a chynnal eich busnes
o’ch cartref, gallai gwarchod plant fod yn yrfa ddelfrydol i
chi.
Darllenwch rai hanesion ynglŷn â bod yn
warchodwyr plant yma.
Fel gwarchodwr plant cofrestredig:
- Byddwch yn cynnig awyrgylch hapus a llawn
ysbrydoliaeth i’r plant y byddwch yn gofalu amdanynt.
- Byddwch yn gweld y plant yr ydych yn gofalu
amdanynt yn tyfu ac yn datblygu.
- Byddwch yn gweithio yn eich cartref, gan
ddewis eich oriau gwaith a’r gwasanaethau yr ydych yn eu
darparu.
- Bydd gennych yrfa lle na fydd yr un dau
ddiwrnod yn debyg i’w gilydd.
- Byddwch yn gofalu am eich plant eich hun ar
yr un pryd os oes gennych deulu.
- Byddwch yn cyfarfod gwarchodwyr plant
eraill yn eich ardal ac yn dod i adnabod eich cymuned leol.
- Byddwch yn ymuno â thua 75,000 o warchodwyr
plant yng Nghymru a Lloegr sy’n darparu gofal plant o safon.
Islwythwch ein taflen, Sut i fod yn warchodwr
plant cofrestredig yng Nghymru(Cymraeg PDF – PDF,
161KB) yma.
Hefyd, pam na ddarllenwch chi am fod yn
nani?
Mae gwefan newydd gan yr Adran Plant,
Ysgolion a Theuluoedd a 4Children yn cynnwys cymhwysiad defnyddiol
i’ch helpu i benderfynu pa gofrestr y dylech chi fod arni. I
gael gwybod mwy, ewch i www.whichregister.org.uk/home
(cyswllt allanol).