Gwaith gwarchodwr plant

Lady with child

Read this page in English

 

Mae gwarchodwyr plant cofrestredig yn gofalu am un neu fwy o blant dan 8 oed am fwy na dwy awr y dydd i gyd. Maent yn gwneud hyn mewn safle cartref (fel arfer yn eu cartref eu hunain) am dâl. Mae gwarchodwyr plant cofrestredig yn cael eu harolygu gan Ofsted yn Lloegr, neu Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), i sicrhau eu bod yn darparu amgylchedd diogel ac ysgogol i’r plant maent yn gofalu amdanynt. Fel arfer mae gwarchodwyr plant cofrestredig yn hunangyflogedig ac yn rhedeg eu busnes eu hunain.

 

Er bydd pob diwrnod yn wahanol, gallai diwrnod nodweddiadol gwarchodwr plant gynnwys:

  • mynd i’r parc, amgueddfa, llyfrgell neu gylch chwarae
  • trefnu gweithgareddau dysgu difyr ac ysgogol, fel gwisgo dillad ffansi, chwarae creadigol, darllen, a dathlu digwyddiadau diwylliannol o bob rhan o’r byd
  • darparu prydau bwyd a byrbrydau i’r plant, eu cynnwys yn y gwaith o baratoi bwyd a dewis bwydlenni
  • mynd â phlant i’r ysgol neu glybiau neu eu casglu ohonynt
  • gweithio gyda gwarchodwyr plant lleol eraill i drefnu gweithgareddau grŵp.

 

Mae gwarchod plant yn yrfa ddeinamig sy’n datblygu, felly, pan fyddwch chi wedi sefydlu eich busnes newydd, mae digonedd o gyrsiau a chyfleoedd hyfforddiant a fydd yn datblygu eich gwybodaeth a’ch hyder.

 

Bod yn rhan o’r gymuned

Mae cannoedd o brosiectau ledled Cymru a Lloegr lle mae gwarchodwyr plant yn helpu teuluoedd lleol. Er enghraifft, gwarchodwyr plant yn cynnig seibiant i deuluoedd sydd â phlant anabl; gofalu am blant rhieni yn eu harddegau i ganiatáu iddynt ddychwelyd i’r ysgol neu’r coleg; cynnig addysg gynnar i blant 3 a 4 oed. Mae’r holl brosiectau hyn yn rhoi cyfle i chi ychwanegu dimensiwn newydd at eich gyrfa a dysgu rhywbeth newydd.

 

Mae llawer o gyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gael i chi fel gofalwr plant cofrestredig.