Hyfforddiant

Lady with mug

Read this page in English

 

Un o’r elfennau sy’n rhoi mwyaf o foddhad wrth ofalu am blant yw gweld eu cynnwrf wrth iddynt ddysgu rhywbeth newydd, neu wrth iddynt gyflawni rhywbeth am y tro cyntaf.

 

Mae gan hyfforddiant lawer i’w gynnig i warchodwyr plant a nanis a’r teuluoedd y maent yn gweithio gyda nhw. Gall hyfforddiant eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn eich gwaith a rhoi cyfle ichi ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau.

 

Yn ogystal, mae ymchwil yn dangos fod plant yn gwneud yn well pan fydd gan y rhai sy’n gofalu amdanynt fwy o gymwysterau. (EPPE)

 

Mae hyfforddiant yn hanfodol i warchodwyr plant cofrestredig. Mae’n rhaid i bob gwarchodwr plant ddilyn cwrs rhagarweiniol mewn gofal plant yn y cartref a dal tystysgrif cymorth cyntaf paediatrig fel rhan o’r broses gofrestru. Mae llawer o warchodwyr plant a nanis yn dewis cyflawni uned gyntaf y Diploma mewn Gofal Plant yn y Cartref (DHC) fel cwrs rhagarweiniol. Ac yng Nghymru mae gwarchodwyr plant yn cael cynnig y cwrs yma yn ddi-dâl fel rhan o’r broses gofrestru.

 

Gellir hyfforddi mewn coleg neu ganolfan hyfforddi neu drwy gyfrwng cwrs dysgu o bell darparwyr fel y Coleg Estyn Cenedlaethol (NEC). Gall dysgu yn y ffordd hon fod yn fanteisiol i warchodwyr plant – gan drefnu eu hyfforddiant o amgylch eu hymrwymiadau gofal plant.