Tystlythyrau

Lady with childRead this page in English

 

Gall cychwyn ar unrhyw yrfa newydd fod yn brofiad hynod anodd, ond darllenwch y canlynol i weld cymaint o foddhad y gellir ei gael mewn gyrfa gwarchod plant.

 

Roeddwn i’n dderbynwraig mewn meddygfa am 15 mlynedd ac fy mam oedd yn gofalu am y plant. Roeddwn i eisiau treulio mwy o amser gyda fy mhlant fy hun; roedd hi’n bwysig bod yno iddynt. Roedd yn rhaid i’m chwaer ddychwelyd i weithio’n amser llawn ac roeddwn i eisiau newid, felly dyma fi’n meddwl: “Yr union beth!”

 

Mi es i’r coleg a mynd drwy’r broses o gofrestru; dechreuais warchod plant ym mis Ionawr 2006.

 

Rydw i’n cael boddhad mawr iawn o’m swydd. Rydych yn cael cymaint yn ôl  gan y plant – mae gweld eu hwynebau yn gwneud yr holl waith caled yn werth chweil, a hefyd gwerthfawrogiad y rhieni. Fel gwarchodwr plant rwyf yn teimlo ei bod yn fraint gofalu am blant pobl eraill gan eu bod mor werthfawr. Rwyf yn teimlo mor ffodus. Rydw i’n gwneud llawer o ‘ddysgu drwy chwarae’; mae plant yn dysgu cymaint o bethau drwy chwarae. Maen nhw’n dysgu mewn gwahanol ffyrdd."
Tracy, Gwarchodwr Plant Cofrestredig, Hemel Hempstead

 

Rydw i wedi bod yn warchodwr plant ers 2004. Cyn hynny roeddwn i’n gweithio mewn meithrinfa, a phenderfynais ddod yn warchodwr plant pan gefais fy ail blentyn; roedd hyn yn cyd-daro’n dda â mynd â’m merch fy hun i’r ysgol. Cysylltais â’r cyngor lleol a’m rhoddodd mewn cysylltiad ag NCMA. Pan oeddwn i’n gweithio mewn meithrinfa roeddwn i’n gweithio gyda phob grŵp oedran felly roedd gen i brofiad o bopeth; roeddwn i hefyd yn arweinydd ystafell cyn-ysgol. Os ydych yn derbyn gormod o blant allwch chi ddim rhoi 100 y cant o sylw i bob plentyn. Rwyf yn rhoi’r un faint o sylw i bob un ohonynt.

Kim, Gwarchodwr Plant Cofrestredig, Rochester

 

Rydw i wedi bod yn gwarchod plant ers 2004. Mi benderfynais ddod yn warchodwr plant oherwydd roeddwn i eisiau bod gartref gyda fy merch a doeddwn i ddim eisiau mynd yn ôl i weithio oherwydd costau gofal plant. Dyna’r peth gorau a ddigwyddodd i mi; rydw i’n hoffi gweithio gyda phlant.

 

Aeth y cofrestru’n iawn; doedd e ddim mor anodd â hynny. Erbyn hyn rydw i hefyd yn warchodwr plant cynorthwyol, felly rydw i’n cynorthwyo gwarchodwyr plant newydd yn ystod y cyfnod cofrestru ac yn ystod y flwyddyn gyntaf.

 

Mae gwarchod plant wedi gwneud i mi sylweddoli beth allaf i ei wneud; mae wedi newid fy mywyd yn gyfan gwbl. Rydw i wedi gwneud NVQ Lefel 2 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad ac yn awr rydw i’n gwneud gradd blynyddoedd cynnar. Yn y pen draw hoffwn weithio mewn ysgol neu ddilyn llwybr i fod yn arolygydd.

 

Mae wedi gwneud i mi wella fy hun, a rhoi nod i mi o ran gyrfa. Mae gwarchod plant wedi arwain at bethau eraill; mae’n dangos i chi eich bod yn gallu llwyddo. Mae’r diwrnodau yn rhai hir ond mae’n waith pleserus, ac mae wedi caniatáu i mi fod gyda fy mhlant. Mae wedi bod yn brofiad positif iawn. Rydw i wedi llwyddo i gael Gwobr Seren Blynyddoedd Cynnar a hefyd bod i gyflwyniad yn San Steffan oherwydd barnodd Ofsted fy mod yn ‘eithriadol’ yn ystod fy arolygiad diwethaf. Rydw i’n hoffi gwybod fy mod yn gwneud rhywbeth positif i’r plant. Mynd am dripiau, gweld bod y plant yn dysgu ac yn datblygu – mae’n waith sy’n rhoi llawer o foddhad.

 

Rydw i’n mwynhau gweithio i mi fy hun. Mae’n rhoi hwb mawr i’r hyder pan fydd popeth yn mynd yn dda, a phan ydych chi’n gwybod eich bod yn darparu gwasanaeth a bod rhieni yn hapus. Ac mae ochr fusnes y swydd – er enghraifft, y cadw cyfrifon – yn gwneud i ran arall o’ch ymennydd weithio!"
Debbie, Gwarchodwr Plant Cofrestredig, Cannock

 

Rydw i wedi bod yn gwarchod plant ers 2002. Y rheswm gwreiddiol pam wnes i ddechrau oedd bod angen cymorth ar riant lleol, a dechreuodd popeth yr adeg honno. Mi es ati i gofrestru ac nid ydw i wedi edrych yn ôl ers hynny!

 

Ar y pryd, pan es i drwy’r broses, roedd Ofsted newydd gymryd drosodd. I ddechrau roedd pethau i’w gweld ychydig yn frawychus, yn enwedig pan glywais fod angen i mi fynd i’r coleg [i wneud fy nghwrs cyn-gofrestru], a deimlai’n beth rhyfedd.

 

Roedd y gwaith papur ychydig yn anodd ar y dechrau, yn arbennig y materion treth. Ond mae taflenni ffeithiau NCMA yn egluro popeth yn hynod o dda. Mae gennym hefyd glinig treth lleol yma sy’n siarad â grwpiau o warchodwyr plant, ac rydw i wedi cael hyfforddiant busnes yn lleol. Rydw i’n hoffi’r rhyddid a’r hyblygrwydd, o beidio â gorfod adrodd i rywun arall, a chlocio i mewn ac allan.

 

Mae gwarchod plant wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn i mi. Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’m plant fy hun, yn arbennig i’m merch; mae ‘na blant yma bob amser. Mae gan fy mab rywfaint o anawsterau cyfathrebu a chymdeithasu felly mae wedi bod yn help gwirioneddol iddo ef hefyd. Rydym yn deulu anferth, nid teulu o bedwar! Os oes gennych amrywiaeth o grwpiau oedran, mae’n helpu’r rhai hŷn i ofalu am y rhai ieuengaf, ac ar yr un pryd mae’r rhai ieuengaf yn dysgu gan y rhai hŷn. Rydw i wedi gofalu am blant lle mae gwahaniaeth mawr yn eu hoedran ac wedi darganfod bod y plant hynaf wrth eu boddau gyda’r plant iau. Mae rhai ohonynt, sydd wedi gadael erbyn hyn, yn dal yn dod draw i weld y plant bach a chwarae gyda nhw!

 

Rydw i’n mwynhau gweld y plant yn tyfu. Mi ddaeth dau neu dri yma pan oeddent yn fabanod. Mae’n braf eu gweld yn tyfu a theimlo fy mod wedi cyfrannu at eu datblygiad. Mae’n rhoi boddhad mawr, yn arbennig pan nad ydyn nhw eisiau mynd adref! Rydych chi’n cael llawer yn ôl hefyd. Mi es i ag un bachgen bach am drip mewn trên, yn fyrfyfyr. Pan ddaethom yn ôl dywedodd: “Roedd hynny’n wych!”
Carol, Gwarchodwr Plant Cofrestredig, Bannock

 

Mi ddes i’n warchodwr plant yn 2005. Roedd fy ngwraig yn gwarchod plant yn barod gyda’i chwaer ond yna penderfynodd fy chwaer-yng-nghyfraith nad dyna oedd hi eisiau ei wneud, a gadawyd fy ngwraig i ofalu am lawer o blant! Ar y pryd roedd gen i daith hanner awr bob ffordd i’r gwaith ac roeddwn i hefyd yn gorfod gweithio ar rai penwythnosau. Pan oeddwn yn cael diwrnod i ffwrdd roeddwn i’n helpu beth bynnag, a meddyliais: “Mae hyn yn rhywbeth y gallwn i ei wneud!”

 

Erbyn hyn mae fy ngwraig yn athrawes amser llawn ond mae hi’n dal yn warchodwr plant cofrestredig ac yn fy helpu yn ystod gwyliau’r haf. Rydw i’n gofalu am un plentyn yn ystod y dydd a dau ar ôl ysgol. Mae’n debyg y byddaf yn derbyn plentyn arall drwy ‘Dechrau’n Deg’, menter leol sy’n nodi ardaloedd difreintiedig.

 

Gan fy mod yn ddyn, mae rhai pobl yn cymryd yn ganiataol fy mod yn gwarchod plant i lenwi bwlch. Wel, rydw i’n eithaf hapus â’r hyn rydw i’n ei wneud nawr! Yn wir, rydw i’n hapusach nag erioed. Roeddwn i wedi gweithio mewn swyddfa am fwy na 10 mlynedd ac ar brydiau byddwn i’n codi yn y bore ac yn meddwl: “Dydw i ddim eisiau mynd i weithio heddiw.” Nawr, dydw i byth yn teimlo fel hynny; mae gwarchod plant wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i mi. Mae’r plentyn rydw i’n gofalu amdano yn ystod y dydd mor gartrefol yma, mae bron yn aelod o’r teulu. A dyna fel ddylai hi fod.

 

Roeddwn i wedi bod yn gweithio mewn canolfan adsefydlu pobl sy’n defnyddio cyffuriau ac alcohol. Roeddwn i’n mwynhau’r swydd ond roeddwn i’n colli fy mhlant ac yn teimlo bod yn rhaid i’r teulu ddod gyntaf. Roedd llawer o’r gwaith yn waith swyddfa ond y rhan roeddwn i’n ei mwynhau fwyaf oedd gweithio gyda phobl, yn hytrach na phapur! Rydych yn cyfrannu pethau positif i fywydau pobl ac rydych yn gweld canlyniadau. Dyna rywbeth rydych chi’n ei wneud wrth weithio gyda phlant hefyd. Rydych yn eu gweld yn datblygu; mae’r gwaith yn rhoi llawer o foddhad.
Mark, Gwarchodwr Plant Cofrestredig, Castell-nedd