Cwestiynau i'w gofyn
Read this page in English
Am y gwarchodwr plant
- Ers faint ydych chi wedi bod yn warchodwr plant?
- Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf ynglŷn â’r swydd?
- Pam y gwnaethoch chi benderfynu dod yn warchodwr plant?
- Ydych chi’n aelod o NCMA?
Am ei hyfforddiant
- Pa gymwysterau perthnasol sydd gennych chi?
- Pa fath o hyfforddiant ydych chi wedi ei gael?
- Ydych chi’n perthyn i grŵp neu rwydwaith gwarchod plant?
- Ydych chi’n rhan o gynllun sicrhau ansawdd?
Am y lleoliad
- Faint o blant eraill ydych chi’n gofalu amdanynt, faint yw eu
hoed ac ers faint ydych chi wedi bod yn gofalu amdanynt?
- Oes gennych chi blant eich hun? Faint yw eu hoed?
- Allwch chi ddisgrifio diwrnod neu wythnos nodweddiadol yn eich
swydd o warchod plant?
- Sut ydych chi’n sicrhau eich bod yn cynnal perthynas weithio
dda â rhieni?
- Beth yw eich trefniadau ar gyfer prydau bwyd a byrbrydau?
- Beth ydych chi’n ei ystyried yn ymddygiad annerbyniol, a sut
ydych chi’n delio â hyn?
- Pa wyliau ac achlysuron arbennig ydych chi’n eu dathlu a
sut?
Mynd allan
- Beth fyddech chi’n ei wneud mewn argyfwng sy’n eich cynnwys chi
neu un o’r plant?
- Fyddwch chi yn mynd â’r plant allan yn y car o gwbl, ac os
felly, oes gennych chi yswiriant addas, gwregysau diogelwch a
seddau car pwrpasol?
- Fyddwch chi a’r plant yn mynd am dro yn rheolaidd yn ystod yr
wythnos?
- Fyddwch chi’n mynd ar dripiau arbennig o gwbl?
- Oes gennych chi anifeiliaid anwes neu ardd?
- Beth yw’r drefn ynglŷn â gwyliau – ein gwyliau ni a’ch gwyliau
chi?
Cwrdd â gofynion cofrestru
- Sut ydych chi’n sicrhau bod anghenion unigol pob plentyn yn
cael eu bodloni?
- Sut ydych chi’n bodloni’r Cyfnod Sylfaen (yng Nghymru) neu EYFS
(yn Lloegr)?
- A fyddai’n bosib i mi weld eich tystysgrifau cofrestru a’r
tystysgrifau yswiriant?
- A fyddai’n bosibl i mi weld eich adroddiad arolygu Ofsted neu
AGGCC?
- A fyddai’n bosibl i mi weld unrhyw dystlythyrau gan rieni?
Cofiwch, os ydych yn ffonio’r gwarchodwr yn ystod y dydd bydd
plant yn debygol o fod o amgylch y tŷ, felly mae’n syniad da bob
amser gofyn a yw hi’n amser cyfleus i siarad a chadw eich
cwestiynau’n gryno. Os yw’r gwarchodwr plant yn ymddangos yn addas,
trefnwch amser a diwrnod ar gyfer ymweliad.