Cyflogi nani

Childminder with babyRead this page in English

 

Cyflogir nanis gan rieni i roi gofal plant yng nghartref y teulu. Yn wahanol i warchodwyr plant, nid oes angen i nanis gael eu cofrestru a’u harolygu, er, yn Lloegr, mae llawer ohonynt yn dewis ymuno â rhan wirfoddol Cofrestr Gofal Plant Ofsted neu, yng Nghymru, Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant Cymru.

 

Nid yw’n ofynnol yn gyfreithiol i nanis ddilyn hyfforddiant gofal plant penodol neu wneud cais am ddatgeliad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB). Fodd bynnag, mae gan 75 y cant o’r 120,000  o nanis yn y DU ddatgeliad CRB ac mae bron i 40 y cant o asiantaethau nanis yn gwrthod lleoli nani sydd heb gael datgeliad.

 

Mae llawer o fanteision i gyflogi nani, gan gynnwys:

  • gall eich plentyn ffurfio perthynas glòs, un ac un â'i ofalwr yn eich cartref chi
  • mae gan eich plentyn ei deganau, ei lyfrau a’i fwyd ac ati wrth law
  • gellir gofalu am frodyr a chwiorydd gyda’i gilydd
  • mae modd i chi reoli trefn arferol, deiet, gweithgareddau ac amgylchedd chwarae eich plentyn i raddau helaeth iawn
  • gall nanis gynnig oriau mwy hyblyg na rhai mathau eraill o ofal plant
  • gall nanis gynnig gwasanaeth gwarchod plant gyda’r nos, gofalu am eich plentyn pan fyddwch i ffwrdd, neu fynd gyda chi ar eich gwyliau
  • nid oes rhaid i chi a’ch plentyn deithio i leoliad gofal plant
  • mae eich plentyn yn derbyn gofal yn ei gymuned ei hun a gall gymryd rhan yn rhwydd mewn clybiau a gweithgareddau lleol
  • gall nanis ofalu am eich plant pan fyddant yn sâl.