Talu am ofal plant
Read this page in
English
Gall talu am ofal eich plentyn fod yn gyfran fawr o incwm y
teulu. Fodd bynnag, mae ffyrdd y gallwch gael rhywfaint o
gymorth ychwanegol.
Credydau Treth
Mae swm elfen Gofal Plant y Credyd Treth
Gwaith rydych yn gymwys i’w dderbyn yn dibynnu ar eich enillion
a’ch oriau gwaith, er gall teuluoedd sydd ag incwm hyd at oddeutu
£62,000 gael rhywfaint o gymorth credyd treth, felly mae’n werth
ffonio Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ar 0845 300 3900 neu fynd
i http://www.hmrc.gov.uk/
(dolen allanol) i ddarganfod a yw’n bosibl ichi gael cymorth.
Os ydych yn gymwys, efallai byddwch yn
gymwys am elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith. Bydd raid i chi
fod yn defnyddio gofal plant cofrestredig neu gymeradwy ond, os
ydych yn ei ddefnyddio, gall yr elfen gofal plant eich helpu gyda
hyd at 70 y cant o’ch costau gofal plant cymwys hyd at gyfyngiad
penodol.
Dim ond gofal plant a ddarperir gan ofalwyr
plant cofrestredig neu gymeradwy sy’n gymwys i dderbyn y credyd
treth. Mae ‘cofrestredig’ neu ‘cymeradwy’ yn golygu:
- gwarchodwr plant sydd wedi cofrestru ag
Ofsted yn Lloegr neu AGGCC yng Nghymru
- gofalwr plant dros 7 oed sydd wedi ymuno â
rhan wirfoddol Cofrestr Gofal Plant Ofsted yn Lloegr neu Gynllun
Cymeradwyo Gofal Plant Cymru
- nani sydd wedi ymuno â rhan wirfoddol
Cofrestr Gofal Plant Ofsted neu Gynllun Cymeradwyo Gofal Plant
Cymru.
Ni allwch wneud cais am elfen gofal plant y
Credyd Treth Gwaith os darperir y gofal plant rydych yn ei
ddefnyddio gan berthynas i’r plentyn, hyd yn oed os yw’r perthynas
hwnnw yn gofrestredig neu’n gymeradwy. Mae perthynas i’r plentyn yn
golygu rhiant, nain (mam-gu) neu daid (tad-cu), modryb, ewythr,
brawd neu chwaer boed trwy waed, hanner gwaed, drwy briodas neu
drwy gysylltiad drwy briodas.
Ewch i www.hmrc.gov.uk/childcare
(dolen allanol) i gael mwy o wybodaeth am gredydau treth, ac i
wneud cais ar-lein.
Talebau gofal plant
Gall cyflogwyr gynnig talebau gofal plant
i’w staff, ac nid yw’r cyflogwr na’r gweithiwr yn talu treth na
chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y gyfran gyntaf bob wythnos.
Mae talebau ar gael i rieni yn amodol ar
ddefnyddio gofalwr plant sy’n gofrestredig neu’n gymeradwy. Gellir
defnyddio talebau gofal plant i dalu am ofal i blant hyd at 15 oed
(hyd at 1 Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 15 oed) neu hyd at 16 oed os
ydynt yn anabl (hyd at 1 Medi ar ôl pen-blwydd yn 16 oed).
Mae hyn yn fantais amlwg i chi fel rhieni
sy’n gweithio. Gan nad ydych yn talu treth na chyfraniadau
Yswiriant Gwladol ar gyfran gyntaf y talebau, gallech arbed swm
sylweddol bob blwyddyn. A gallai cyflogwyr arbed arian hefyd – yn
ogystal â gostwng absenoliaeth cyfnod byr a denu mwy o bobl i
ddychwelyd i weithio ar ôl absenoldeb mamolaeth.
Y ffordd fwyaf gyffredin o gael talebau yw
drwy “aberth cyflog” lle’r ydych yn cytuno i drosi cyfran o’ch
cyflog yn dalebau. Nid oes treth na chyfraniadau Yswiriant Gwladol
yn daladwy ar y gyfran gyntaf bob wythnos o aberth cyflog. Ceir
cwmnïau talebau gofal plant a fydd yn gweinyddu’r cynllun ar ran
eich cyflogwr, a byddant yn sicrhau bod y taliadau yn cael eu
gwneud yn gywir i’ch gofalwr plant.
Mae gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi
gyfrifiannell ar-lein a all eich helpu i gyfrifo a fyddai’n werth
ichi ddefnyddio talebau gofal plant.
I gael mwy o wybodaeth am dalebau gofal plant ewch i (dolenni
allanol):