Gwybodaeth i rieni
Read this page in English
Chwilio am ofal plant?
Mae dewis rhywun i ofalu am eich plentyn pan fyddwch yn
dychwelyd i waith neu hyfforddiant yn un o’r penderfyniadau
pwysicaf allwch chi eu gwneud. Gofelir am bron i 500,000 o blant
gan warchodwyr plant a nanis, sy’n golygu mai gofal plant yn y
cartref yw’r ail math mwyaf poblogaidd o ofal plant ffurfiol yng
Nghymru a Lloegr.
Mae gwarchodwyr plant cofrestredig yn gweithio yn eu cartrefi eu
hunain, ac yn cynnig gofal i hyd at chwech o blant ar unrhyw un
adeg, o’r newydd-anedig hyd at blant 8 oed. Mae llawer o blant yn
aros gyda’r un gwarchodwr am flynyddoedd - a rhai nes byddant yng
nghanol addysg uwchradd.
Mae gwarchodwyr plant cofrestredig fel arfer yn hunangyflogedig
ac yn cael eu cofrestru a’u harolygu gan Ofsted yn Lloegr neu
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
Mae NCMA wedi cynhyrchu ffilm a thaflen i ddangos manteision
dewis gofal plant yn y cartref gan ddefnyddio gwarchodwr plant
cofrestredig. Gallwch
wylio’r ffilm neu lwytho’r daflen i lawr yma.
Cyflogir nanis yn gyffredinol gan rieni ac maent yn darparu
gofal plant yng nghartref y teulu ei hun. Nid oes raid i nanis fod
wedi eu cofrestru yn yr un modd â gwarchodwyr plant, ond gallant
gael eu "cymeradwyo" drwy ymuno â
Chofrestr Gofal Plant Gwirfoddol Ofsted (dolen allanol) yn
Lloegr neu’r Cynllun Cymeradwyo
Gofal Plant yng Nghymru (dolen allanol).
Gallwch chwilio am eich gwarchodwr plant agosaf gan ddefnyddio’r
Cyfeiriadur Cenedlaethol Gwybodaeth i Rieni. Dyma gyfeiriadur
ar-lein sy’n cynnig y gallu i rieni a’r rheini sy’n gweithio gyda
nhw i chwilio am wybodaeth am ofal plant a gwasanaethau i deuluoedd
yn eu cymuned leol ac yn genedlaethol.
Gellir gweld hwn drwy wefan
DirectGov (dolen allanol).
Bydd y ddwy wefan yn rhoi’r un wybodaeth ond yn ei chyflwyno’n
wahanol.