Cwestiynau i'w gofyn i'r nani
Read this page in English
Pan fydd gennych restr fer o nanis, efallai
bydd rhai cwestiynau yr hoffech eu gofyn:
- Pam wnaethoch chi benderfynu dod yn
nani?
- Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf ynglŷn â’r
swydd?
- Disgrifiwch y plant rydych chi wedi gofalu
amdanynt yn y gorffennol.
- Pa fathau o weithgareddau fyddech chi’n eu
gwneud gyda fy mhlant i?
- Pa fath o brydau bwyd a byrbrydau ydych chi’n
mwynhau eu paratoi i’r plant?
- Beth ydych chi’n ei ystyried yn ymddygiad
annerbyniol, a sut ydych chi’n delio â hyn?
- Beth fyddech chi’n ei wneud mewn
argyfwng?
- I ble fyddwch chi’n mwynhau mynd â’r plant
allan?
- Disgrifiwch eich cyflawniad mwyaf fel
nani.
- Sut ydych chi’n cyfathrebu â’r rhieni rydych
chi’n gweithio gyda nhw?
- Beth ydych chi’n teimlo yw rhinweddau
pwysicaf nani dda?
Gofalwch eich bod yn gwirio...
- A yw wedi cofrestru ar ran wirfoddol cofrestr
gofal plant Ofsted neu Gynllun Cymeradwyo Gofal Plant Cymru
- A yw’n aelod o NCMA fel nani
- Tystlythyrau gan gyflogwyr blaenorol neu
diwtoriaid.
- Profion adnabod, gan gynnwys rhai â
llun.
- Ei thystysgrif gymeradwyo os oes un
ganddi
- Ei thrwydded yrru gyflawn a glân, os oes un
ganddi.
- Tystysgrif cymorth cyntaf.
- Unrhyw dystysgrifau cymhwyster.
Gofalwch eich bod yn trafod...
- Eich syniadau a’ch rheolau ar gyfer rheoli
ymddygiad.
- Yr oriau gwaith a’r dyletswyddau y byddwch yn
disgwyl i’r nani eu gwneud.
- Faint o arian rydych chi’n bwriadu ei dalu a
sut byddwch yn talu.
- Cadw eich plentyn yn ddiogel.
- Rheolau sylfaenol – gallai hyn gynnwys
rheolau rydych chi’n disgwyl i’r plant eu dilyn yn ogystal â
rheolau sy’n gysylltiedig â’r nani tra bydd hi’n byw yn eich
cartref.
- Defnyddio’r car.
- Llety (os ydych chi’n cyflogi nani sy’n byw i
mewn).
Os ydych chi’n hysbysebu am nani drwy
gyhoeddiadau fel Nursery World neu The Lady, neu’n hysbysebu
ar-lein, bydd angen i chi ofalu eich bod yn gwirio pob tystlythyr
yn drylwyr cyn penodi nani.