Dewis nani
Read this page in English
Y man cychwyn gorau yw holi pobl rydych chi’n eu hadnabod.
Dywedwch wrth gydweithwyr, ffrindiau a’r teulu eich bod yn chwilio
am nani. Efallai byddant yn gallu argymell un. Ond byddwch yn
bwyllog – eich penderfyniad chi ydyw yn y pen draw, ac efallai na
fydd rhywbeth sy’n addas i’ch cymydog yn addas i chi.
Cofiwch ddechrau chwilio’n gynnar – mae rhai
rhieni yn ddigon ffodus i ddarganfod eu nani ddelfrydol yn syth
bron – mae eraill yn cymryd mwy o amser.
“Mae’r trefniant rhannu-nani sydd gen i yn
berffaith. Nid yn unig mae hwn yn drefniant cost-effeithiol, ond
mae hi’n hynod o hyblyg hefyd, ac yn fy helpu i gwrdd â’m
hanghenion o ran gofal plant. Mae hi fel aelod o’r teulu”
Mrs KS, Caint.
Mae amryw o ffyrdd o ddarganfod nani:
- drwy siarad â phobl eraill
- hysbyseb mewn papur lleol
- hysbysebu mewn cylchgronau arbenigol i
deuluoedd sy’n gweithio
- cysylltu â cholegau lleol sy’n cynnig
cyrsiau gofal plant – mae hyn yn ddelfrydol os hoffech gyflogi
rhywun sydd newydd gael ei hyfforddi
- asiantaeth nanis.
Mae asiantaethau yn codi ffi am ganfod
rhestr o nanis addas ichi. Bydd asiantaeth dda yn cynnal ei
harchwiliadau ei hun cyn rhoi enw nani ar ei llyfrau. Mae cannoedd
o asiantaethau nanis yn y DU a gallwch ddarganfod rhestrau o
asiantaethau ar y rhyngrwyd neu mewn cylchgronau arbenigol i
deuluoedd sy’n gweithio fel The Lady a chylchgrawn Junior. Gallwch
hefyd ddod o hyd i rifau cysylltu yn llyfr ffôn Yellow Pages.
Mae llawer o asiantaethau yn cynnig
gwasanaeth “ôl-ofal” i deuluoedd, i helpu sicrhau bod y trefniant
yn llwyddiant. Gellir cyfweld â'r nani, gwirio
hanes ei swyddi a’i thystlythyrau, a gofyn iddi gael datgeliad CRB
manwl. Bydd yr asiantaeth hefyd yn rhoi gwybod ichi am eich
ymrwymiadau cyfreithiol wrth gyflogi nani.
Cychwyn yn gynnar
Mae rhai rhieni yn ddigon ffodus i ddod o
hyd i’r nani iawn bron ar unwaith, ond gallai gymryd sawl mis i chi
wneud hynny. Caniatewch ddigon o amser i hysbysebu, llunio rhestr
fer, cynnal cyfweliadau a dewis. Hefyd, bydd angen i chi roi digon
o amser i’ch plentyn ymgyfarwyddo â’i ofalwr newydd, felly mae’n
ddoeth dechrau chwilio’n gynnar.