Dod o hyd i warchodwr plant
Read this page in
English
Y man cychwyn gorau yw holi pobl rydych
chi’n eu hadnabod. Dywedwch wrth gydweithwyr, ffrindiau a’r teulu
eich bod yn chwilio am warchodwr plant. Efallai byddant yn gallu
awgrymu rhywun y maent yn ei adnabod. Ond byddwch yn bwyllog – eich
penderfyniad chi ydyw yn y pen draw, ac efallai na fydd rhywbeth
sy’n addas i’ch cymydog yn addas i chi. Cofiwch ddechrau chwilio’n
gynnar – mae rhai rhieni yn ddigon ffodus i ganfod eu gwarchodwr
plant delfrydol yn syth bron – mae eraill yn cymryd mwy o
amser.
"Mi wnaethom ni ddechrau chwilio am warchodwr
plant dri mis cyn i mi ddychwelyd i weithio. Roeddem ni’n hynod o
lwcus, oherwydd cyn gynted ag y cerddais i mewn i gartref Nicola
roeddwn yn teimlo’n gwbl gyfforddus, ac roedd hithau a Jasmine yn
cyd-fynd o’r cychwyn cyntaf. Roedd gwybod bod fy merch yn ddiogel
ac yn hapus yng ngofal Nicola yn ei gwneud yn gymaint haws i mi
ddychwelyd i weithio." Mrs HC, Swydd Hertford
Gwybodaeth leol
Gall eich Gwasanaeth
Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) lleol roi rhestr i chi o
warchodwyr plant cofrestredig sydd â lleoedd gwag. Efallai gall y
gwasanaeth roi gwybodaeth ychwanegol ichi hefyd, er enghraifft i ba
ysgolion a chylchoedd chwarae y gall y gwarchodwr ollwng plant neu
gasglu plant ohonynt neu a oes ganddo/ganddi ardd neu anifeiliaid
anwes. Canfyddwch eich FIS lleol drwy ffonio 0800 096
0296.
Gallech geisio siarad â’ch ysgol neu eich
canolfan blant leol i weld a ydynt yn gwybod am unrhyw warchodwyr
plant sydd â lleoedd gwag. Mae llawer o ysgolion a chanolfannau
plant yn gweithio’n glòs gyda gwarchodwyr plant cofrestredig ac mae
ganddynt gydlynwyr lleoedd gwag, sy’n cynorthwyo i baru rhieni â
darparwyr.