Gwarchodwyr i blant dros 7 oed

Young girlRead this page in English

 

Mae gwarchodwyr plant dros 7 oed yn gofalu am blant 8 oed neu hŷn yn unig. Nid oes angen iddynt gael eu cofrestru na’u harolygu gan Ofsted neu Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Fodd bynnag, yn Lloegr gallant ddewis ymuno â Chofrestr Gofal Plant Ofsted neu, yng Nghymru, â Chynllun Cymeradwyo Gofal Plant Cymru.


Mae gwarchodwyr plant dros 7 oed yn hunangyflogedig ac yn cytuno ar gytundeb am eu gwasanaethau â rhieni, yn debyg iawn i warchodwyr plant cofrestredig.

 

Mae manteision defnyddio gwarchodwr plant dros 7 oed yn cynnwys:

  • Plant yn cael eu goruchwylio wrth gyrraedd a gadael yr ysgol
  • Cymorth gyda gwaith cartref
  • Bydd eich plentyn yng nghwmni plant o’r un oed
  • Gall eich plentyn gymryd rhan yn rhwydd mewn gweithgareddau lleol a gweithgareddau ar ôl ysgol.
  • Gofal cyn ac ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau.