Cyflogi nani
Read this page in English
Cyflogir nanis gan rieni i roi gofal plant
yng nghartref y teulu. Yn wahanol i warchodwyr plant, nid oes angen
i nanis gael eu cofrestru a’u harolygu, er, yn Lloegr, mae llawer
ohonynt yn dewis ymuno â rhan wirfoddol Cofrestr Gofal Plant Ofsted
neu, yng Nghymru, Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant Cymru.
Nid yw’n ofynnol yn gyfreithiol i nanis
ddilyn hyfforddiant gofal plant penodol neu wneud cais am
ddatgeliad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB). Fodd bynnag,
mae gan 75 y cant o’r 120,000 o nanis yn y DU ddatgeliad CRB
ac mae bron i 40 y cant o asiantaethau nanis yn gwrthod lleoli nani
sydd heb gael datgeliad.
Mae llawer o fanteision i gyflogi nani, gan
gynnwys:
- gall eich plentyn ffurfio perthynas glòs,
un ac un â'i ofalwr yn eich cartref chi
- mae gan eich plentyn ei deganau, ei lyfrau
a’i fwyd ac ati wrth law
- gellir gofalu am frodyr a chwiorydd gyda’i
gilydd
- mae modd i chi reoli trefn arferol, deiet,
gweithgareddau ac amgylchedd chwarae eich plentyn i raddau helaeth
iawn
- gall nanis gynnig oriau mwy hyblyg na rhai
mathau eraill o ofal plant
- gall nanis gynnig gwasanaeth gwarchod plant
gyda’r nos, gofalu am eich plentyn pan fyddwch i ffwrdd, neu fynd
gyda chi ar eich gwyliau
- nid oes rhaid i chi a’ch plentyn deithio i
leoliad gofal plant
- mae eich plentyn yn derbyn gofal yn ei
gymuned ei hun a gall gymryd rhan yn rhwydd mewn clybiau a
gweithgareddau lleol
- gall nanis ofalu am eich plant pan fyddant yn
sâl.