Manteision cael nani

Read this page in English
Gofal plant yng nghartref y teulu
Mae nanis yn gweithio yng nghartref teulu ac
yn gofalu am blentyn neu blant y teulu hwnnw. Bydd rhai nanis yn
byw gyda’r teulu, bydd eraill yn dod i weithio yn ddyddiol a bydd
rhai eraill yn gweithio i ddau neu fwy o deuluoedd.
Gan fod eich plentyn yn cael gofal yn ei
gartref, mae ganddo ei deganau, ei lyfrau a’i gemau ei hun wrth
law. Gallwch hefyd reoli trefn arferol eich plentyn, ei ddeiet, ei
weithgareddau a’i amgylchedd chwarae i raddau helaeth iawn.
Gall nanis hefyd warchod plant gyda’r nos a
gofalu am eich plentyn tra byddwch chi i ffwrdd – neu
hyd yn oed ddod gyda chi i ofalu am blant ar wyliau.
Plant anabl
Fel gwarchodwyr plant, gall nanis gynnig cymorth i rieni sydd â
phlant anabl. Drwy roi gofal un ac un i’ch plentyn, gallant
ddarparu gofal hollol addas, penodol i’w anghenion. Gall nanis
hefyd ofalu am eich plant pan fyddant yn wael.