Manteision gwarchodwyr plant
Read this page in
English
Manteision defnyddio gwarchodwyr plant
Gall gofal plant mewn amgylchedd cartref fod yn fwy hyblyg na
rhai mathau eraill o ofal plant. Bydd eich plentyn yn cael gofal
yng nghartref y gwarchodwr lle gall y plant fwynhau profiadau dysgu
bywyd go iawn yn rhwydd, megis coginio, siopa, garddio, rhannu
prydau bwyd a mynd allan i’r parc a’r llyfrgell.
Mae gofalu am blant yn y cartref yn hytrach nag mewn canolfan yn
caniatáu i warchodwyr plant fod yn fwy rhydd i wneud penderfyniadau
ar y funud hefyd. Mae diwrnod heulog neu eira annisgwyl yn gyfle
ardderchog i chwarae a dysgu yn yr awyr agored.
Grwpiau bychain
Gan fod gwarchodwyr plant yn gofalu am grwpiau bychain o blant
yn unig, maent mewn sefyllfa ddelfrydol i ofalu am blant anabl, gan
ystyried eu hanghenion arbennig. Gall gofalu am oedrannau cymysg
olygu hefyd ei bod yn bosibl gofalu am frodyr a chwiorydd ar yr un
pryd, gan hwyluso pethau i’r teulu cyfan. Ac mae bod yng nghwmni
plant o wahanol oedrannau yn helpu plant i ddysgu gweithio a
chwarae gyda’i gilydd. Fel arfer, mae gwarchodwyr plant yn gofalu
am blant o wahanol deuluoedd, tra bod nanis yn dueddol o weithio i
un teulu ar y tro.
Yn y gymuned
Ceir gwarchodwyr plant ym mhob cymuned ac o bob diwylliant a
chefndir. Bydd eich plentyn yn gallu cymryd rhan mewn
gweithgareddau lleol megis cylchoedd chwarae, sesiynau yn y gampfa
neu Rainbows. Byddant hefyd yn cael cyfle i ddod i adnabod
golygfeydd a synau eu cymuned leol a’r bobl sy’n byw ynddi.
Gofal Cofleidiol
Mae gwarchodwyr plant yn gweithio oriau hyblyg a gallant gynnig
gofal cyn ac ar ôl ysgol – gan gynnwys casglu a gollwng y plant. Yn
ystod gwyliau’r ysgol mae gwarchodwyr plant yn gofalu am eich plant
tra byddwch chi’n gweithio ac fel arfer byddant yn cynnig digonedd
o wahanol weithgareddau i’w cadw’n brysur.