Talu am ofal plant

Childminder and child with moneyRead this page in English

 

Gall talu am ofal eich plentyn fod yn gyfran fawr o incwm y teulu.  Fodd bynnag, mae ffyrdd y gallwch gael rhywfaint o gymorth ychwanegol.

 

Credyd Treth

Mae faint o elfen Gofal Plant y Credyd Treth Gwaith yr ydych yn gymwys i’w dderbyn yn dibynnu ar eich enillion a’r oriau yr ydych yn eu gweithio, er gall teuluoedd sydd ag incwm o hyd at oddeutu £62,000 gael rhywfaint o gymorth credyd treth, felly mae’n werth ffonio Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ar 0845 300 3900 neu fynd i http://www.hmrc.gov.uk/ (cyswllt allanol) i ddarganfod a yw’n bosibl ichi gael cymorth.

 

Os ydych yn gymwys, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith. Bydd raid i chi fod yn defnyddio gofal plant cofrestredig neu gymeradwy ond, os ydych yn ei ddefnyddio, gall yr elfen gofal plant eich helpu gyda hyd at 80 y cant o’ch costau gofal plant cymwys hyd at gyfyngiad penodol.

 

Dim ond gofal plant a ddarperir gan ofalwyr plant cofrestredig neu gymeradwy sy’n gymwys i dderbyn y credyd treth. Mae ‘cofrestredig’ neu ‘cymeradwy’ yn golygu:

  • gwarchodwr plant sydd wedi cofrestru ag Ofsted yn Lloegr neu’r CSSIW yng Nghymru
  • gofalwr plant dros 7 oed sydd wedi ymuno â rhan wirfoddol Cofrestr Gofal Plant Ofsted yn Lloegr neu Gynllun Cymeradwyo Gofal Plant Cymru
  • nani sydd wedi ymuno â’r rhan wirfoddol o Gofrestr Gofal Plant Ofsted neu Gynllun Cymeradwyo Gofal Plant Cymru.

 

Ni allwch wneud cais am elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith os darperir y gofal plant yr ydych yn ei ddefnyddio gan:

  • berthynas i’r plentyn, hyd yn oed os yw’r perthynas hwnnw yn gofrestredig neu’n gymeradwy. Mae perthynas i’r plentyn yn golygu rhiant, nain (mam-gu) neu daid (tad-cu), modryb, ewythr, brawd neu chwaer boed trwy waed, hanner gwaed, drwy briodas neu drwy gysylltiad drwy briodas.

 

Ewch i www.hmrc.gov.uk/childcare (cyswllt allanol) i gael mwy o wybodaeth am gredydau treth, ac i wneud cais ar-lein.

 

Talebau gofal plant

Gall cyflogwyr gynnig talebau gofal plant i’w staff, ac nid yw’r cyflogwr na’r gweithiwr yn talu treth na chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y gyfran gyntaf bob wythnos.

 

Mae talebau ar gael i rieni yn amodol ar y ffaith fod y gofalwr plant a ddefnyddir ganddynt yn gofrestredig neu’n gymeradwy. Gellir defnyddio talebau gofal plant i dalu am ofal i blant hyd at 15 oed (hyd at 1af o Fedi ar ôl eu pen-blwydd yn 15 oed) neu hyd at 16 oed os ydynt yn anabl (hyd at 1af o Fedi ar ôl pen-blwydd yn 16 oed).

 

Mae hyn yn fantais amlwg i chi fel rhieni sy’n gweithio. Gan nad ydych yn talu treth na chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfran gyntaf y talebau, gallech arbed swm sylweddol bob blwyddyn. A gallai cyflogwyr arbed arian hefyd – yn ogystal â gostwng absenoliaeth cyfnod byr a denu mwy o bobl i ddychwelyd i weithio ar ôl absenoldeb mamolaeth.

 

Y ffordd fwyaf gyffredin o gael talebau yw drwy “aberth cyflog” lle’r ydych yn cytuno i drosi cyfran o’ch cyflog yn dalebau. Nid oes treth na chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn daladwy ar y gyfran gyntaf bob wythnos o aberth cyflog. Ceir cwmnïau talebau gofal plant a fydd yn gweinyddu’r cynllun ar ran eich cyflogwr, a byddant yn sicrhau fod y taliadau yn cael eu gwneud yn gywir i’ch gofalwr plant.

 

Mae gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyfrifiannell ar-lein a all eich helpu i gyfrifo a fyddai’n werth ichi ddefnyddio talebau gofal plant.


I gael mwy o wybodaeth am dalebau gofal plant ewch i (cysylltau allanol):