Yng Nghymru - AGGCC

NCMA contractsRead this page in English

 

Yng Nghymru, mae’n rhaid i warchodwyr plant sy’n gobeithio gofalu am blant o dan 8 oed gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) cyn y gallant ddechrau gwarchod plant.

 

Gallwch ddarllen mwy am ddod yn warchodwr plant yng Nghymru yn llyfryn NCMA, Dod yn Warchodwr Plant Cofrestredig yng Nghymru ond isod fe welwch ychydig o wybodaeth gyffredinol am y broses gofrestru.

 

I gofrestru, yn gyntaf bydd angen ichi fynychu sesiwn cyn cofrestru (sesiwn wybodaeth) lle byddwch chi’n cael gwybod mwy am fod yn warchodwr plant. Dylech gysylltu â’ch swyddfa AGGCC leol (dolen allanol) i gael gwybod pryd mae’r sesiwn nesaf yn cael ei chynnal yn eich ardal chi.

 

Byddwch chi’n cael llawer o wybodaeth yn y sesiwn am sut i ddod yn warchodwr plant a byddwch chi’n cael eich cyfeirio at wefan AGGCC lle bydd angen ichi gael gwybodaeth bwysig am y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gwarchod Plant a’r Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd. Pan fyddwch wedi cwblhau eich hyfforddiant, bydd yn rhaid ichi egluro i Arolygydd AGGCC sut bwriadwch fodloni’r gofynion cyn ichi ddechrau gwarchod plant.

 

Dim ond ar wefan AGGCC mae’r pecynnau cais ar gyfer gwarchod plant (dolen allanol) ar gael yn awr.

 

I gofrestru bydd angen hefyd ichi gwblhau cwrs Uned 1 Diploma mewn Gofal Plant yn y Cartref. Mae’n rhaid cwblhau hwn cyn ichi gael eich cofrestru, ynghyd â chwrs cymorth cyntaf (ymhen chwe mis o gofrestru).

 

Bydd angen ichi fynychu sesiwn fentora NCMA ar ôl y cwrs am gyngor ar ysgrifennu eich polisïau a’ch gweithdrefnau. Bydd hyn yn eich helpu i gwblhau ail ran ffurflen gais AGGCC.

 

Pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen gais wedi’i llenwi, bydd angen ichi wneud trefniadau ar gyfer eich datgeliad Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) (gan gynnwys unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn yn y safle gwarchod plant arfaethedig). Gwiriad yw hwn i sicrhau nad oes dim yn eich hanes na hanes aelodau’r teulu i’ch gwahardd chi rhag gweithio gyda phlant. Bydd AGGCC hefyd yn cynnal gwiriadau pellach, er enghraifft archwiliad meddygol a cheisio tystlythyrau.

 

Yn olaf, bydd Arolygydd AGGCC yn trefnu ymweld â chi a chynnal arolygiad cofrestru lle bydd angen ichi ddangos sut rydych chi’n bodloni’r safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer gwarchod plant yng Nghymru (dolen allanol) a’r Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd.

 

Os byddwch chi’n llwyddo, byddwch chi’n cael tystysgrif gofrestru ac yn gallu dechrau gweithio fel gwarchodwr plant cofrestredig. Yn y man hwn, efallai hefyd y byddwch chi’n gymwys i wneud cais am grant dechrau busnes, a gynlluniwyd i’ch helpu i dalu unrhyw gostau a fydd gennych wrth ichi ddechrau eich busnes. Byddwch chi’n cael gwybod mwy am hwn yn ystod y broses gofrestru.

 

Ac, wrth gwrs, gallwch hefyd ymgeisio am aelodaeth NCMA a threfnu cael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus NCMA, sy’n cael ei warantu gan Royal and Sun Alliance Insurance plc, i’ch yswirio chi tra byddwch chi’n gwarchod plant.

Main Content Area